Y Coridor Ansicrwydd: Pwy all atal Y Seintiau Newydd?

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill 27 o gemau o'r bron (er heb ddod yn gyfartal â'r record byd), ac wedi ennill un cwpan yn barod.

Mae'n debygol iawn y bydd y clwb o Groesoswallt yn ennill y Cymru Premier am y 12fed tro mewn 14 mlynedd cyn hir, a hwythau 17 pwynt yn glir ar frig y tabl.

Maen nhw'n dal yng Nghwpan Cymru ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her Yr Alban, felly fe ellir cyflawni pedrwbl hanesyddol.

Beth mae hynny'n ei ddweud am safon y gystadleuaeth yng Nghymru? A beth all ei wneud i newid y sefyllfa?

Y Coridor Ansicrwydd ar BBC Sounds.