Hana Lili yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ar Ddydd Miwsig Cymru

Mae'r gantores Hana Lili wedi ymweld ag Ysgol Garth Olwg i berfformio mewn gig annisgwyl fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru.

Trefnwyd y gig a gweithdai amrywiol gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf.

Mae Dydd Miwsig Cymru - 9 Chwefror - yn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg o bob genre.

Dywedodd Hana Lily fod "Dydd Miwsig Cymru mor bwysig".

"Ma' fe'n ddiwrnod i ni dim dim ond dathlu cerddoriaeth Cymraeg yng Nghymru, ond mae'n ddathliad o'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac fel artist ti'n gallu mynd mewn a gobeithio ysbrydoli plant ifanc.

"Ma' fe'n bleser."