Josh Adams: Perfformiadau sêr ifanc yn 'bositif' er dwy golled

Mae asgellwr Cymru Josh Adams yn dweud fod perfformiadau'r chwaraewyr ifanc yn "un positif" i'w gymryd o'u dwy gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Er bod Cymru wedi colli yn erbyn , dolen allanol a Lloegr mae chwaraewyr fel Cameron Winnett, 21 oed, ac Alex Mann, 22 oed, wedi creu argraff.

Mi fydd Cymru yn teithio i Ddulyn mewn pythefnos i wynebu Iwerddon, gydag Adams yn ychwanegu y bydd hi'n "dasg anodd iawn" yn erbyn y Gwyddelod - un o'r timau gorau yn y byd.