Galw am wneud mwy i sicrhau gweithio hyblyg i fenywod

Mae 'na rybudd nad yw digon o fenywod sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn cael gweithio oriau hyblyg.

Yn ôl undeb Unsain mae 30% o fenywod sy'n gneud cais am weithio oriau hyblyg yn cael eu gwrthod.

Mae hynny'n cynnwys meysydd fel ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, cynghorau a'r heddlu.

O fis Ebrill eleni, bydd deddf newydd yn dod i rym fydd yn rhoi hawl statudol i weithwyr wneud cais am weithio hyblyg, a hynny o'u diwrnod cyntaf yn y gwaith.

Ond yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Catrin Asbrey, cyfarwyddwr adnoddau dynol byd eang cwmni Creo Medical, na fydd y gyfraith newydd o reidrwydd yn golygu fod mwy o bobl yn gallu cael yr hawl i weithio oriau hyblyg.