'Cyn belled â bod o'n hapus ma' bopeth yn iawn'

"Mae normaleiddio gwahaniaeth corfforol mor bwysig. Fel bod pobl byth yn teimlo bod rhaid iddyn nhw guddio achos bod ganddyn nhw wahaniaeth corfforol."

Bum mis yn ôl croesawodd Elliw Williams ac Ilan Roberts, 25, eu mab, Arthur i'r byd. 

Cafodd Arthur o Fodffordd, Ynys Môn ei eni heb ei law chwith, ac mae'r teulu'n galw am fwy o gefnogaeth i blant sydd wedi eu geni gyda rhan o'r corff sy'n wahanol. 

Wedi eu profiad maen nhw hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiad i ddod â phobl sydd gyda gwahaniaeth corfforol at ei gilydd er mwyn rhannu profiadau a dathlu'r cyflwr.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod cais am ymateb.

Yn ôl Pennaeth Bydwreigiaeth Ysbyty Merched Lerpwl, mae eu tîm arbenigol nhw wastad yn ceisio cefnogi teuluoedd yn ystod profion diagnostig, ac y dylid gwneud cais am unrhyw gefnogaeth yn dilyn diagnosis drwy brif ddarparwr gofal yr unigolyn.