Gweilch: 'Weithiau rhaid mynd nôl i fynd ymlaen'

Mae prif weithredwr y Gweilch yn gobeithio y bydd y rhanbarth yn chwarae mewn stadiwm newydd erbyn dechrau tymor 2025-26.

Cyhoeddodd Lance Bradley ym mis Ionawr fod y Gweilch yn bwriadu symud o Stadiwm Swansea.com.

Dywedodd fod y stadiwm, sydd wedi bod yn gartref i'r Gweilch ers iddo agor yn 2005, yn rhy fawr i'r rhanbarth.

Ar hyn o bryd mae'r Gweilch yn denantiaid i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gyda'u tenantiaeth yn dirwyn i ben ar ddiwedd tymor 2024-25.

Mae Lyn Jones - hyfforddwr y rhanbarth pan symudodd y tîm i'r stadiwm - wedi croesawu'r penderfyniad i chwilio am gartref newydd.