Menopos: Poeni bod rhai menywod 'yn cael eu hanghofio'

Mae dynes o Ynys Môn wedi lansio ymgyrch i sefydlu clinig gwasanaethau menopos yng ngogledd-orllewin Cymru.

Er bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu clinigau menopos yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, mae pryder bod merched mewn rhannau eraill o'r dalgylch yn colli allan.

Mae Delyth Owen, 61, o Lanfaelog ger Rhosneigr, wedi llunio deiseb sy'n galw am sefydlu clinig tebyg yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan fod "genod yma yn cael eu hanghofio".

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod eu "harbenigwyr menopos yn aml yn cynnal ymgynghoriadau rhithiol i osgoi teithio, a all fod yn anodd i rai, ac mae hyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr".