Bae Colwyn: Criwiau'n taclo tân mawr mewn tŷ dros nos

Mae'r gwasanaeth tân wedi bod yn gweithio drwy'r nos i ddiffodd tân mawr mewn tŷ ym Mae Colwyn, Sir Conwy.

Cafodd criwiau eu galw i ardal gorllewin Woodland Park yn y dref ychydig cyn 21:00 nos Lun.

Roedd pump injan dan wedi eu galw i'r safle i geisio diffodd y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod perchennog y tŷ ond wedi dod yn ymwybodol ar ôl i rywun oedd yn pasio weld y tân yn yr atig.

"Doedd y perchennog ddim yn ymwybodol o'r tân," meddai.

"Roedden nhw wedi gallu dod allan a doedd dim angen ambiwlans. Mae criwiau yn parhau ar y safle, ond dyw achos y tân ddim yn amlwg eto."