Protestwyr yn dilyn Drakeford trwy giatiau Coleg Llandrillo

Roedd protestwyr o'r sector amaeth yn aros i groesawu'r prif weinidog yn Y Rhyl ddydd Mercher wrth iddo ymweld â'r dref i agor canolfan beirianneg newydd Coleg Llandrillo yn swyddogol.

Mae tua 200 o bobl a 70 o dractorau'n rhan o'r brotest ddiweddaraf gan ffermwyr yng Nghymru yn erbyn cynlluniau amaethyddol llywodraeth Mark Drakeford.

Mae ffermwyr yn anfodlon gyda sawl elfen o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy'n dal yn destun ymgynghoriad.

Pan gyrhaeddodd cerbyd y prif weinidog, aeth nifer o'r protestwyr trwy giatiau'r campws a chasglu tu allan i'r adeilad.