Chwe Gwlad: 'Rhaid mynd at Iwerddon yn gorfforol'

Mae'r prop Gareth Thomas yn disgwyl her gorfforol o'r radd flaenaf pan fydd Cymru yn wynebu Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Mae yna dalcen caled yn wynebu Cymru, sydd wedi colli yn erbyn Yr Alban a Lloegr eleni, tra bod y Gwyddelod, sy'n ffefrynnau clir, wedi curo Ffrainc a'r Eidal.

Yn ôl Thomas, mae'n rhaid i Gymru feistroli agwedd gorfforol y gêm os am gael unrhyw obaith o sicrhau buddugoliaeth annisgwyl.