Amaeth: Llywodraeth Cymru'n 'gwneud beth maen nhw moyn'
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "gwrando" ar bryderon ffermwyr ac y bydd newidiadau i gynlluniau amaeth yn sgil barn y rhai yn y diwydiant.
Daw sylwadau'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn dilyn cyfres o brotestiadau gan ffermwyr yn gwrthwynebu cynlluniau amaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Roedd pobl wedi ymgynnull i brotestio yng Nghaerfyrddin, Hen Golwyn ac Aberystwyth ddydd Iau, a hynny'n dilyn digwyddiad tebyg yn Y Rhyl ddydd Mercher.
Draw yng Nghaerfyrddin roedd dros 50 o dractorau a thua 100 o bobl yn y brotest i wrthwynebu cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru.
Dyma ymateb rhai o'r protestwyr yng Nghaerfyrddin.