'Sa i'n credu oeddan ni'n barod am r'wbeth fel Covid'

Ar drothwy gwrandawiadau Ymchwiliad Covid-19 y DU yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, mae BBC Cymru wedi siarad gyda theulu'r aelod cyntaf o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i farw ar ôl dal y feirws.

Yn 51 oed, bu farw Gerallt Davies - parafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe - yn Ebrill 2020.

Fe fydd yr ymchwiliad yn gyfle i glywed gan bobl a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig yn ogystal ag arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion.

Ym marn brawd Gerallt, Aled Davies, doedd yna ddim paratoadau addas yn y DU ar gyfer delio ag argyfwng fel lledaeniad coronafeirws.