'Roedd hi'n anodd gweld pobol ifanc yn marw o Covid'

Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dod i Gaerdydd gan glywed tystiolaeth gan arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion ynghylch yr ymateb i'r argyfwng yma yng Nghymru.

Fe fydd pobl a gollodd anwyliaid hefyd yn cael rhannu eu profiadau.

Roedd yn gyfnod heriol i staff y gwasanaeth iechyd, sy'n ymdopi â phwysau aruthrol hyd heddiw oherwydd effaith gorfod gohirio gymaint o apwyntiadau a thriniaethau er mwyn delio â thonnau cychwynnol y feirws.

Dr Bethan Gibson, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant sy'n cofio rhai o heriau'r cyfnod hwnnw i hi a'i chydweithwyr.