Ymchwiliad Covid: 'Pwysig clywed stori'r rhai fu farw'

Wrth i Ymchwiliad Covid-19 y DU gynnal ei wrandawiad cyntaf yng Nghymru ddydd Mawrth, mae dynes o Ynys Môn wedi disgrifio pa mor anodd, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig, oedd methu rhoi mwy o gefnogaeth i'w chwaer yn Sir Fynwy cyn iddi farw o ganser.

Roedd Carys Evans yn byw ym Mrynbuga gyda'i gŵr a'u dwy ferch fach, ac fe gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn Cam 4 yn ystod haf 2020.

Bu farw yng Ngorffennaf 2021 yn 42 oed.

Dywed Gwenno Eyton Hodson bod gwaeledd a marwolaeth ei chwaer ieuengaf yng nghyfnod y pandemig wedi effeithio'n fawr arni hi a gweddill y teulu.

Maen nhw'n "byw gyda'r euogrwydd", meddai, o ganlyniad methu "bod yno iddi fel hoffen ni" oedd yn golygu bod Carys wedi "wynebu pob triniaeth ar ben ei hun".

Mae Gwenno ymhlith y bobl sydd wedi cyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad, ac fe fydd ei stori yn cael ei rhannu ar ffurf fideo.

Dywed bod hi'n "holl bwysig... bod yr ymchwiliad yn cael clywed stori y rhai na sydd yma bellach i dd'eud eu stori".