Angharad James: Symud i'r UDA yn gyfle rhy dda i'w wrthod

Mae Angharad James yn dweud fod symud nôl i'r Unol Daleithiau i chwarae yn y NWSL eto wedi bod yn gyfle rhy dda i'w wrthod.

Mae chwaraewr canol cae Cymru yn gadael Tottenham Hotspur i ymuno â Seattle Reign.

Mae hi hefyd yn datgelu fod Jess Fishlock wedi chwarae rhan flaenllaw yn ei phenderfyniad i symud yno, gan fod Fishlock wedi bod yn chwarae i Seattle Reign ers 2013.

Mi fydd James yn chwarae dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Fawrth, gyda'r gêm yn fyw ar Match of the Day Wales ar BBC Two Wales am 19:15.