Cofio Iolo Trefri - y ffermwr a'r dyn busnes o Fôn

Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i'r dyn busnes a'r ffermwr adnabyddus o Ynys Môn, Iolo Owen Trefri, sydd wedi marw yn 92 oed.

Bydd yn cael ei gofio'n bennaf am greu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, agor bwyty enwog a sŵ.

Yn dad i bump o blant - gan gynnwys y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen - fe dreuliodd ei fywyd yn arloesi ac arbrofi.

Ym mis Tachwedd 2021 cafodd y fraint o agor Ffair Aeaf Môn fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad enfawr i'r sector amaethyddol ar yr ynys.

Derbyniodd MBE hefyd am ei gyfraniad i'r byd amaethyddol.

Yn 2022, cafodd rhaglen arbennig o Cefn Gwlad ei darlledu ar S4C, yn dathlu bywyd "un o gymeriadau chwedlonol Ynys Môn".