Protest ffermwyr: 'Mae'n amser i ni gael newid'

Mae ffermwyr ar draws Cymru wedi ymgynnull ym Mae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn helpu i hwyluso'r brotest ac maen nhw wedi annog pobl i beidio â mynd yno mewn tractorau.

Dywed llywodraeth Lafur Cymru eu bod yn gwrando ar bryderon y sector.

Yn ôl y ffermwr Gareth Wyn Jones: "Mae'r niferoedd wedi troi fyny... mae'n amser i ni gael newid yn y deddfau, y polisiau a symud pethau yn eu blaenau."

"Efallai bydd y nifer sydd yma rwan yn mynd i ddeud bod ni'n meddwl busnes a ma nhw wedi dod yma i gael atebion."