Beth yw barn y genhedlaeth nesaf o ffermwyr?
Mae arweinwyr amaeth yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrando ar "ofid" cymunedau gwledig, wedi i brotest fawr gael ei chynnal y tu allan i'r Senedd.
Ddydd Mercher fe wnaeth miloedd o bobl deithio i Fae Caerdydd i wrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, sy'n "anymarferol" ym marn yr undebau.
Yn ôl y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Rydym ond yn gallu llwyddo mewn partneriaeth, mae wir angen i ni gydweithio, a dyna rydym yn gwneud."
Beth yw barn amaethwyr ifanc am eu dyfodol yn y diwydiant felly?
Mali, Lisa ac Ela sy'n sôn pam eu bod nhw wedi penderfynu bod yn rhan o'r brotest ym Mae Caerdydd.