Radio Cymru 2: 'Cyrraedd cynulleidfa iau a llai rhugl'

Denu cynulleidfa sydd wedi bod yn anodd i'w chyrraedd cyn hyn yw pwrpas ymestyn oriau Radio Cymru 2, yn ôl y pennaeth.

O ddydd Llun, fe fydd y gwasanaeth yn darlledu dros 60 awr yr wythnos o ddeunydd gwreiddiol - cynnydd sylweddol o'r 25 awr cyn hynny.

Fe fydd hyd rhaglenni presennol yn cael eu hymestyn, a bydd rhaglenni adloniant yn y prynhawn a'r nos yn cael eu darlledu ar y ddwy orsaf.

Dywedodd pennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd: "Mae hyn yn cynnig dewis arall yn yr iaith Gymraeg i wrandawyr sydd eisiau cerddoriaeth ac adloniant."

Yn ogystal â chyrraedd mwy o bobl, mae'n gobeithio y bydd y gwasanaeth yn annog mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Yn draddodiadol, mae hi wedi bod yn anodd i Radio Cymru gyrraedd rhai mathau o gynulleidfaoedd - pobl iau, llai rhugl a dosbarth gweithiol - ac mae'n hymchwil ni yn dangos fod canran ohonyn nhw yn chwilio am rywbeth fel hyn."