Busnesau bwyd yn arloesi i geisio goroesi heriau

Mae nifer o fusnesau bwyd wedi gorfod arloesi er mwyn goroesi heriau economaidd.

Mae Rhys a Laura Keogh yn un o'r rheiny. Ar ôl rhedeg bwyty Eidalaidd am wyth mlynedd, maen nhw bellach wedi agor stondin Dirty Gnocchi ym Marchnad Caerdydd ar ôl sylwi ar y newid yn arferion pobl ers Covid.

"Dyna pryd naethon ni benderfynu symud tuag at fwyd stryd a manteisio ar yr arfer o fwyta tu fas," meddai Rhys.

"Ni'n lwcus iawn achos mae llawer o bobl yn dod mewn, ac mae cymaint o fusnesau gwych eraill yma."

Maen nhw nawr eisiau ehangu gyda chyllid torfol, gan fod gofyn am gymorth eu cwsmeriaid yn rhatach na cheisio cael benthyciad gan y banc.

"Rydyn ni wedi hel y rhan fwyaf o'r arian ein hunain, ond mae angen ychydig eto," meddai Rhys.

"Er enghraifft, rydyn ni'n cynnig 'addewid £20' sy'n golygu cewch chi werth £25 o fwyd yn ôl."