Gwennan Hopkins 'methu credu' ei bod yng ngharfan Cymru
Mae Gwennan Hopkins o Gaerdydd yn dweud ei bod hi "methu credu" y ffaith ei bod hi wedi cael ei dewis fel rhan o garfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Hopkins, sy'n chwarae fel wythwr, yn un o'r saith o chwaraewyr sydd heb ennill cap sydd wedi eu cynnwys yn y garfan gan y prif hyfforddwr Ioan Cunningham.
Dywedodd bod Sioned Harries, sydd newydd ymddeol o'r gamp, yn "ysbrydoliaeth" iddi.
Bydd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau yn erbyn Yr Alban ym Mharc yr Arfau ar 23 Mawrth.