'Rhywbeth wedi mynd o'i le' gyda phris tocynnau rygbi

Mae cefnogwyr rygbi wedi beirniadu pris tocynnau ar gyfer gemau cartref Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y gost am y seddi gorau yn Stadiwm Principality ydy £115, ond mae BBC Cymru wedi gweld bod diffyg galw wedi arwain rhai clybiau rygbi i gynnig gwerthu eu dyraniad o docynnau am lai na'r pris swyddogol.

Dywedodd y cefnogwr rygbi Cian Morgan Jones fod "rhywbeth wedi mynd o'i le" gyda'r prisiau.

Mae'r BBC wedi gwneud cais am sylw gan Undeb Rygbi Cymru.

Fel aelod o glwb rygbi Bangor mae Mr Jones yn cofio cael tocynnau am £50 yn eithaf hawdd yn y gorffennol, ond bod prisiau bellach dros £100 i'r rhan fwyaf.

"Mae rhywbeth wedi mynd o'i le," meddai.

"Pan ti'n meddwl am faint mae pobl yn ymwneud gyda chostau byw dyddiau yma, dyw e ddim yn realistig i lawer iawn o bobl yng Nghymru."