Eleri Morgan yn sôn am ei phrofiad hi o ddioddef trais rhywiol
Mae'r actor a'r digrifwr Eleri Morgan wedi sôn wrth BBC Cymru am ei phrofiad hi o ddioddef trais rhywiol a pham ei bod hi'n teimlo mor angerddol ynglŷn â rhannu ei stori.
Ar hyn o bryd mae Eleri Morgan yn serennu yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o 'Ie Ie Ie' - drama un fenyw sy'n trafod pynciau fel trais a chydsyniad.
Mae'r ddrama yn adrodd dwy stori gyfochrog am berson ifanc yn cael rhyw - un o'r profiadau hynny yn gydsyniol a'r llall ddim.
Gobaith Eleri yw bod y sioe yn agoriad llygad i nifer o bobl ifanc a'i bod yn dangos pwysigrwydd cefnogi rhywun sydd wedi cael profiad o'r fath.
Roedd Ms Morgan yn ei hugeiniau pan gafodd hi ei threisio, ond gymerodd hi sawl blwyddyn iddi siarad am y peth yn agored.
"Nath e cymryd siarad gyda therapist, siarad gyda ffrindiau a siarad gyda phobl eraill cyn i fi sylweddoli beth ddigwyddodd i fi," meddai.
"Ro'dd cael fy nhreisio yn ofnadwy, ond beth oedd yn rili ofnadwy oedd delio gyda phobl oedd ddim yn gwybod sut i ddelio gyda fi."