North: 'Pob diwrnod wedi bod yn ardderchog' gyda Chymru
Mae canolwr Cymru, George North wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Y gêm gartref yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn fydd y tro olaf i North, 31, gynrychioli ei wlad.
Mae'r gŵr o Fôn wedi ennill 120 o gapiau hyd yma - dim ond Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins sydd wedi chwarae mwy o gemau yn y crys coch.
Bydd North yn parhau i chwarae i'w glwb, wedi iddo gyhoeddi y bydd yn symud o'r Gweilch i Provence yn Ffrainc y tymor nesaf.
Yn siarad gyda phrif sylwebydd rygbi BBC Cymru, Cennydd Davies, dywedodd fod "pob diwrnod wedi bod yn ardderchog" gyda charfan Cymru, ond mai ymddeol o rygbi rhyngwladol yw'r "peth iawn i fi a fy nheulu".