Mark Drakeford yn 'diolch' i'w blaid

Cyn i ganlyniad arweinydd newydd y Blaid Lafur gael ei gyhoeddi, roedd yna air o ddiolch gan sawl un i'r prif weinidog presennol, Mark Drakeford, wrth iddo baratoi i gamu'n ôl o'r swydd wythnos nesaf.

Roedd yntau hefyd yn awyddus i ddiolch aelodau am y gefnogaeth i'w lywodraeth dros y blynyddoedd - ond mae'n bryd nawr, meddai, i edrych ymlaen at y bennod nesaf.

Dywedodd Mark Drakeford: "Diolch yn fawr i bob un ohonoch chi am bopeth chi wedi neud i helpu'r llywodraeth Lafur yma yng Nghymru dros y blynyddoedd".