Disgyblion yn 'gweld lafa'n tasgu' yng Ngwlad yr Iâ
Mae disgyblion chweched dosbarth o Ynys Môn wedi disgrifio'r cyffro o fod yng Ngwlad yr Iâ wrth i stad o argyfwng gael ei gyhoeddi yn ne'r wlad yn dilyn y pedwerydd ffrwydrad folcanig yno ers mis Rhagfyr.
Y ffrwydrad diweddaraf, a ddechreuodd nos Sadwrn ym Mhenrhyn Reykjanes, yw'r un mwyaf grymus hyd yma ac mae pobl wedi gorfod gadael eu cartrefi.
Mae gwyddonwyr yn rhybuddio y gallai'r ardal fod ar ddechrau cyfnod folcanig newydd sydd â'r potensial o bara am ddegawdau, neu hyd yn oed ganrifoedd.
Fe gyrhaeddodd griw o ddisgyblion Ysgol David Hughes, Porthaethwy y wlad ddydd Gwener ar gyfer taith addysgol.
Maen nhw'n aros yn nhref Keflavik, sydd tua 15 milltir o'r ffrwydrad diweddaraf.
Wrth rannu eu profiadau ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Cadi, 17, bod "pawb yn iawn yn fa'ma" a'u bod yn "gw'bod bod ni'n saff yn y gwesty - 'dan ni'n eitha' pell i ffwrdd o'r echdoriad".
"O'ddan ni'n gw'bod y gallai echdoriad ddigwydd," dywedodd Sion, 18, sydd - fel Cadi - yn astudio daearyddiaeth Safon Uwch, "ond dwi ddim yn meddwl bod neb yn disgw'l gweld echdoriad felly o'dd o'n pretty anghygoel i ni."
Dywedodd Cadi eu bod wedi gweld o'u gwesty bod yr awyr yn goch nos Sadwrn a "meddwl na goleuadau'r gogledd oeddan nhw a wedyn dyma rhywun yn d'eud bod y llosgfynydd wedi echdorri".
"Oedd yr awyr yn goch i'r chwith ohonon ni a wedyn i'r dde oedd yr awyr yn las i gyd."
"O'dd pawb wedi cyffroi," ychwanegodd Sion.
Dywedodd Cadi eu bod yn gallu gweld y lafa'n tasgu o le roedden nhw.
Oherwydd y ffrwydrad mae amserlen y disgyblion wedi gorfod newid mymryn - mae'r Blue Lagoon enwog yn rhy agos i'r ffrwydrad felly mae'n fwriad i drochi yn hytrach ym mhyllau dŵr cynnes y brifddinas, Reykjavik.