Simnai hen safle Alwminiwm Môn wedi ei dymchwel
Mae'r olygfa yng Nghaergybi wedi cael ei thrawsnewid wrth i simnai adnabyddus hen safle Alwminiwm Môn gael ei dymchwel.
Cafodd y tŵr - sydd wedi dod yn dirnod amlwg yng ngogledd Ynys Môn - ei ddymchwel brynhawn Mercher.
Mae'r safle, sy'n eiddo i gwmni Stena Line, wedi'i ddynodi fel un o'r safleoedd treth a thollau o fewn Porthladd Rhydd y dref.
Daeth cadarnhad y llynedd gan lywodraethau'r DU a Chymru y bydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn un o ddau borthladd rhydd i'w sefydlu yng Nghymru.
Dymchwel y simnai yw cam cyntaf ail-ddatblygu'r safle ar gyfer y dyfodol, er mwyn ceisio cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer buddsoddiad newydd.