Cwrs harddu cŵn newydd wedi’i lansio yn y Gymraeg

Mae perchennog busnes ymbincio cŵn yn Sir Gâr wedi disgrifio manteision siarad Cymraeg gydag anifeiliaid anwes ei gleientiaid.

Roedd Dylan Wyn o gwmni Cwtsh y Ci yng Nghaerfyrddin yn ymateb i'r ffaith bod hi bellach yn bosib i bobl sy'n ystyried ymuno â'r maes gael cymwysterau harddu cŵn a chymorth cyntaf drwy'r Gymraeg.

Daw hyn wedi i'r corff iPET Network sicrhau Grant Cymorth Iaith Gymraeg gan y sefydliad addysgol Cymwysterau Cymru.

Gyda'r diwydiant yn tyfu a'r galw'n cynyddu am brydferthwyr cŵn cymwys, mae'r Dyfarniad Lefel 1 newydd sbon mewn Paratoi ar gyfer Gwaith Prydferthu Cŵn yn ddelfrydol i siaradwyr Cymraeg.

Dywed iPET Network bod diffyg cyrsiau yn eu dewis iaith hyd yn hyn "wedi digalonni nifer o siaradwyr Cymraeg yn y gorffennol".

Fel yr eglurodd Dylan Wyn wrth raglen Dros Frecwast mae'r cŵn yn ymateb yn well o ganlyniad i gael eu cyfarch yn iaith eu perchnogion.