Ben Davies: Cymru'n haeddu clod ar ôl ymddeoliad Bale
Mae amddiffynnwr Cymru Ben Davies yn teimlo fod y tîm yn haeddu lot o glod am gyrraedd gemau ail gyfle Euro 2024 yn dilyn ymddeoliad Gareth Bale.
Hon yw'r ymgyrch ragbrofol gyntaf i Gymru ers i Bale ymddeol ar ôl Cwpan y Byd 2022, a bydd y tîm yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol os ydyn nhw'n curo Gwlad Pwyl nos Fawrth.
Mae Davies yn dweud fod perfformiadau chwaraewyr fel Harry Wilson, Brennan Johnson a David Brooks wedi helpu i lenwi'r bwlch mae Bale wedi ei adael.