Torcalon cefnogwyr Cymru yn dilyn colled Gwlad Pwyl
Mae Cymru wedi methu â chyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2024 wedi i Wlad Pwyl eu curo ar giciau o'r smotyn nos Fawrth.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar ddiwedd amser ychwanegol ond y gwrthwynebwyr sy'n mynd i'r Almaen yn yr haf wedi iddi orffen yn 5-4.
Dan James oedd yr olaf i gymryd ei gic ond cafodd ei ymdrech ei harbed gan y golwr Wojciech Szczęsny.
Gyda 33,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd calonnau a gobeithion nifer o'r cefnogwyr wedi eu chwalu yn dilyn y gêm.