Chwe Gwlad: 'Her Cymru yw perfformio am 80 munud'

Mae prif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham yn gobeithio gweld perfformiad 80 munud gan ei dîm yn erbyn Lloegr ym Mryste ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i fenywod.

Ar ôl colli 20-18 yn erbyn Yr Alban yn y rownd gyntaf mae Cymru'n wynebu talcen caled yn erbyn Lloegr, wnaeth roi crasfa 48-0 i'r Eidal ar y penwythnos agoriadol.

Fe gollodd Cymru 59-3 yn erbyn Lloegr y llynedd ac mae Cunningham am weld y bwlch yn cau eleni.