'Hapus' i greu gemau sy'n diddanu cleifion ifanc

Rhyw filltir sy'n gwahanu Ysgol Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ac Ysbyty Plant Arch Noa.

Wrth i ddisgyblion Blwyddyn 5 ddechrau dysgu am y Gwasanaeth Iechyd, nifer ohonyn nhw'n blant i staff y GIG, roedd yna awydd i wybod mwy - ac i wneud rhywbeth i helpu cleifion ifanc.

O ganlyniad, aethon nhw ati i greu adnoddau addysg, straeon a gemau ar eu cyfer.

Mae'r rheiny wedi bod yn help mawr i blant, er enghraifft, sy'n treulio oriau hir yn yr ysbyty sawl gwaith yr wythnos yn derbyn dialysis, yn aml heb allu symud o'u gwlâu.

Dywed y cleifion bod yr adnoddau'n helpu'r sesiynau dialysis "fynd yn fwy cyflym" - ac mae'r disgyblion hefyd yn cael boddhad o wybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth.