Rhybudd i gadw draw o ddyfrgi yn Aberystwyth
Roedd 'na ymwelydd annisgwyl yn Aberystwyth fore Llun wrth i ddyfrgi gael ei weld yn cerdded o amgylch y dref.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Dyfrgwn Cymru ei bod yn naturiol i'r anifeiliaid grwydro o'u cynefin, ac mai'r tywydd yw'r rheswm tebygol pam ei fod wedi crwydro y tro yma.
Cyngor yr ymddiriedolaeth yw cadw pellter o'r dyfrgi, a gadael llonydd iddo os nad yw wedi'i anafu.
Gwelodd Will Lewis Parker y dyfrgi ar ei ffordd i'r gwaith fore Llun.
"Roeddwn i reit gyffrous pan welais o yn gyntaf, gan ei fod mor brin, ond wnaeth hyn droi i bryder pan sylweddolais bysa'n gallu cael ei frifo.
"Cefais fy nal yn hollol off-guard."
Dywedodd Lewis Jevon ei fod wedi gweld dyfrgi yn ei ardd nos Sadwrn.
"Ro'n i wedi synnu achos oedd o'n mynd yn ôl ac ymlaen ambell waith a ddim i weld yn ofn y goleuadau oedd yn dod o'r tŷ.
"Ro'n i adref ar ben fy hun. Mae fy mhartner wrth ei bodd efo anifeiliaid a natur, a dwi siŵr mae nawr yn gutted bod hi wedi mynd allan i'r bingo."