Carcharu dyn yrrodd ar 100mya ar ffyrdd cul Gwynedd
Mae dyn o Ddolgellau wedi cael dedfryd o ddwy flynedd o garchar ar ôl gyrru ar gyflymder o 100mya a tharo car yr heddlu.
Roedd Rowland Humphreys, 45 oed, wedi bacio'n ôl a tharo car yr heddlu wrth iddo geisio dianc rhag swyddogion ar ffordd gul a gwledig.
Bu'n rhaid i yrwyr eraill wyro o'r ffordd wrth i Rowland Humphreys, sy'n 45 oed, yrru ar gyflymder ar yr A487 ger Porthmadog.
Ar un adeg, roedd Humphreys yn gyrru gyda theclyn atal ceir - stinger - wedi ei ddal y tu ôl i'r cerbyd ac yn peryglu cerbydau eraill.
Clywodd llys y goron Caernarfon bod yr heddlu wedi ei ddilyn am bum milltir cyn iddo stopio.
Fe blediodd yn euog i yrru'n beryglus a thorri gorchymyn atal (restraining order).
Wrth ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar, dywedodd y Barnwr Nicola Saffman, ei fod wedi taro car yr heddlu yn fwriadol, gan achosi difrod i'r cerbyd.