Beth yw effaith y tywydd gwlyb ar ffermwyr?
Wrth i'r tywydd gwlyb barhau, mae corff WWF Cymru wedi rhybuddio bod ffermwyr eisoes yn talu pris sylweddol oherwydd effaith newid hinsawdd.
Mewn adroddiad newydd, mae WWF Cymru'n amcangyfrif bod effeithiau'r tywydd, sy'n cael eu gyrru gan newid hinsawdd, eisoes yn costio degau o filiynau o bunnoedd mewn costau ychwanegol.
Yn ôl yr elusen, mae angen i Gymru addasu i'r dyfodol, gan greu system fwyd a ffermio mwy "amrywiol a gwydn", wrth i'r hafau fynd yn gynhesach a'r gaeafau yn wlypach.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd roedd 53% yn fwy o law fis diwethaf o gymharu â mis Mawrth arferol yng Nghymru.
Ym mart Castellnewydd Emlyn, trin a thrafod y tywydd oedd y ffermwyr yno hefyd.