Car wedi taro merch a gyrru i ffwrdd yng Nghaerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ferch ar sgwter gael ei tharo gan gar yng Nghaerdydd, cyn i'r gyrrwr ffoi o'r digwyddiad.

Mae lluniau CCTV yn dangos y car yn mynd ar y palmant ar Stryd Sloper, gan daro'r ferch fach, oedd yn gwneud ei ffordd yn ôl o'r parc gyda'i mam a'i brawd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 17:50 nos Sul, 24 Mawrth, yn ystod gwyliau'r Pasg.

Er mai mân anafiadau a gafodd y ferch, dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad wedi codi braw arni hi a'i theulu.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio ar y gyrrwr, neu unrhyw un arall sydd â gwybodaeth, i gysylltu â nhw.