Cyn-aelod Bwncath: 'Mae fy enw da yn deilchion'
Mae achos llys yn erbyn athro a chyn-aelod o'r band Bwncath wedi cael ei ollwng.
Cafodd Alun Jones Williams, 26 oed o ardal Pwllheli, ei gyhuddo ym mis Tachwedd y llynedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys y Goron Caernarfon fore Mercher dywedwyd wrth Mr Williams .
Dywedodd fod ei "enw da yn deilchion" o ganlyniad i'r cyhuddiad "di-sail", ac y bydd ei "fywyd byth yr un fath eto".