Gwaith amddiffyn prom rhag stormydd yn dod i ben
Fe rybuddiodd adroddiad i Gyngor Conwy yn 2019 bod yna bosibilrwydd o orfod cau promenâd Hen Golwyn yn barhaol gan fod yr amddiffynfeydd môr gerllaw yn dadfeilio.
Roedd yr amddiffynfeydd gwreiddiol yn dyddio o Oes Fictoria ac yn gynyddol annigonol, yn enwedig yn sgil newid hinsawdd.
Arweiniodd at bryder difrifol ynghylch effaith stormydd garw nid yn unig ar y prom ei hun ond ar seilwaith Dŵr Cymru, llwybr yr arfordir, rheilffordd gogledd Cymru a'r A55.
Nawr yn dilyn tair blynedd o waith strwythurol, a buddsoddiad gwerth £35m, mae'r cyngor sir yn gobeithio y bydd codi lefel y lôn o bron i 2m yn diogelu cymunedau am ddegawdau i ddod.
Mae'r promenâd bellach wedi ailagor i'r cyhoedd - dyma luniau ohono o'r awyr nawr bod y gwaith wedi dod i ben.