Chwe Gwlad: 'Rhaid dal ati a gorffen ar nodyn uchel'
Mae prif hyfforddwr Cymru Ioan Cunningham yn dweud ei fod yn teimlo'n "rhwystredig iawn" ar ôl i'w dîm fethu â sgorio'r un pwynt yn erbyn Ffrainc ddydd Sul wrth golli am y pedwerydd tro yn olynol yn ymgyrch Chwe Gwlad y menywod.
Dyw Cymru heb danio o gwbl yn ystod ymgyrch eleni, gyda'r Ffrancwyr yn llwyr fanteisio ar Barc yr Arfau, Caerdydd i selio buddugoliaeth o 40-0.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru'n parhau ymhell ar waelod y tabl cyn gorffen eu hymgyrch gartref yn Stadiwm Principality yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn, 27 Ebrill.
Mae honno'n gêm y mae'n rhaid ei hennill, yn ôl Cunningham, er mwyn adennill rhywfaint o hunan-barch.