Colli 10 stôn drwy redeg a chwarae pêl-droed

Sylweddolodd Chris Shaw fod angen iddo addasu ei fywyd pan ddechreuodd ei bwysau effeithio ar ei waith fel athro Saesneg yn Ysgol Bryntawe ger Abertawe.

Dywedodd fod hynny wedi ei ysgogi i ymuno â thîm pêl-droed ar gyfer dynion sydd dros eu pwysau - tîm sy'n cael ei redeg gan y mudiad Man v Fat.

Dywedodd: "Ro'n i ryw 24 stôn oedd e'n sioc fawr i fi, ond bellach nawr wedi colli bron i 10 stôn.2

Mae lefelau gordewdra yng Nghymru wedi dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf.

Ychydig dros chwarter (26%) o oedolion yng Nghymru sy'n ordew yn ôl y ffigyrau swyddogol, ond mae astudiaeth gan elusen arloesi Nesta yn awgrymu bod y gwir ffigwr yn fwy na thraean (34%).