'Anghywir i wrthod lle i'm mab mewn ysgol Gymraeg'

Mae mab pedair oed Lowri a Dylan Jones yn mynychu Cylch Meithrin yr ysgol Gymraeg agosaf i'w cartref.

Ag yntau wedi bod yn mynd drwy gyfnod pontio i baratoi at y cam nesaf, roedd disgwyl y byddai Ynyr yn nosbarth derbyn Ysgol Gymraeg Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym mis Medi.

Ond er bod ei chwaer chwech oed eisoes yn ddisgybl yna, roedd yna sioc i'r rhieni pan roddodd Cyngor Powys wybod iddyn nhw bod dim lle ar gyfer Ynyr.

Dywed y cyngor eu bod ond yn gallu derbyn 15 o ddisgyblion i'r dosbarth a'u bod wedi cael mwy o geisiadau na hynny, gan ychwanegu eu bod wedi dilyn "trefniadau a chod derbyn ysgolion Llywodraeth Cymru".

Y cyngor i'r teulu yn y llythyr yn gwrthod y cais oedd, gan mai yng Nghroesoswallt maen nhw'n byw, i ofyn i Gyngor Sir Amwythig am le mewn ysgol ar gyfer Ynyr.

Mae'r sefyllfa'n dorcalonnus, medd Lowri Jones, sy'n gofyn i'r cyngor a wnaethon nhw ddilyn y meini prawf yn gywir fel rhan o'u hapêl i geisio gwrthdroi'r penderfyniad.