Ceredigion: 'Ysgolion lleol yw asgwrn cefn y gymuned'
Mae pryderon mewn sawl ardal yng Ngheredigion wrth i'r cyngor sir ystyried dyfodol ysgolion cynradd.
Yn ôl un cynghorydd sir mae dyfodol wyth ysgol yn cael eu hystyried - dwy ohonyn nhw yn rhannu yr un campws.
Nos Fercher bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ym mhentref Llangwyryfon, ryw wyth milltir i'r de o Aberystwyth, i drafod "yr ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol".
Dywed Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn "edrych i ddechrau'r broses o adolygu'r sefyllfa o safbwynt ein hysgolion cynradd" er mwyn "cwrdd â'r heriau sylweddol sy'n bodoli ar draws ein gwasanaethau".
Mae nifer yn bryderus ac yn dweud bod cau ysgol leol yng nghefn gwlad yn lladd y gymuned.
Dau riant - Meleri Williams ac Owen Jewell - fu'n mynegi eu pryder nhw am golli ysgolion gwledig.