Pobl Llanbedr yn 'barod i gwffio' i gael ffordd osgoi

Mae'r Ysgrifennydd dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth yn dweud ei fod yn "deall rhwystredigaeth" cymuned Llanbedr yng Ngwynedd sy'n parhau i alw am ffordd osgoi o amgylch y pentref.

Daeth dros 60 o bobl leol at ei gilydd fore Llun i gerdded yn araf drwy Lanbedr i fynegi eu siom nad yw'r cynllun wedi dwyn ffrwyth eto.

Yn ôl Ken Skates, mae angen "darn o waith" er mwyn ateb pryderon y gymuned ond mae'n mynnu y bydd yn gwrando ar lais y gymuned cyn dod i benderfyniad terfynol.

Dywedodd hefyd y byddai £200,000 yn cael ei wario eleni er mwyn deall anghenion yr ardal lle mae tagfeydd sylweddol yn ystod cyfnodau prysur.