'Trist' bod dim lle mewn Ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd
Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd o rwystro twf addysg Gymraeg ar ôl iddyn nhw wrthod caniatáu i fwy o blant na'r arfer ddechrau yn Ysgol Mynydd Bychan ym mis Medi.
Lle i tua 30 o blant sydd ym mhob blwyddyn ysgol ar hyn o bryd, ond ym Medi 2025 fe fydd hi'n symud safle a bydd lle i 60 o blant ym mhob blwyddyn.
Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod 12 cais am le eleni er bod yr ysgol wedi dweud eu bod nhw'n hapus i gymryd y plant ychwanegol.
Mae Elsie, merch Rhian Hughes, yn un o'r plant sydd wedi methu cael lle yn yr ysgol
Dywedodd y cyngor eu bod yn "gweithio gyda'r ysgol a phartneriaid eraill i weld a oes modd cyflymu'r broses o ehangu'r ysgol".