Wynne Evans: 'Mor bwysig' siarad am iechyd meddwl

Mae'r cyflwynydd a'r canwr opera Wynne Evans yn dweud ei fod wedi "stryglo" gydag iselder ers degawd, ond bod "ymarfer corff wedi newid fy mywyd".

A hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Wynne, 52, wedi bod yn siarad am ei brofiadau.

"Ar hyn o bryd, dwi'n OK," meddai, "ond ers dros 10 mlynedd, dwi'n stryglo".

Pan ddaeth ei briodas i ben yn 2016, dechreuodd brofi iselder difrifol.

"Ro'n i'n teimlo ar ben fy hun, yn methu gweld fy mhlant o hyd, ac fe es i le tywyll iawn, iawn."

Mae'n cyfaddef ei fod wedi hel meddyliau tywyll iawn nad oedd eisiau cario ymlaen.

"Dyna wir oedd rock bottom i fi ac roedd rhaid cyrraedd rock bottom cyn meddwl bod angen newid pethau," meddai.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.