Theresa Mgadzah Jones 'mor falch i ymuno â'r Orsedd'

Mae Gorsedd Cymru wedi cyhoeddi rhestr o'r unigolion fydd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst.

Bydd 49 o unigolion yn cael eu derbyn i'r Orsedd am "eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Un ohonyn nhw yw Theresa Mgadzah Jones, a ddaeth i Brydain o Zimbabwe yn blentyn 12 oed, cyn symud i Gymru ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.

A hithau ei hun wedi ymfudo i Gymru, mae Theresa'n achub ar bob cyfle posib i hyrwyddo'r Gymraeg ymysg ymfudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Fe weithiodd am flynyddoedd i'r Groes Goch yng Nghasnewydd gan gydlynu rhaglen ar gyfer merched, ble aeth ati i chwalu'r syniad na allai'r merched hyn ymdopi â dysgu Cymraeg ar ben dysgu Saesneg.