Diweddariadwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 27 Gorffennaf 2015
Agor ein llygaid yn New Bay. Amryw yn codi tua 4 o'r gloch y bore, ac yn cadw twrw mawr, gan gerdded i fyny ac i lawr. Bore hyfryd. Pur dawel.
Am tua un o'r gloch y prynhawn aeth y Cadben ynghyd a pedwar or dwylaw, y meddyg, a Williams, Birkenhead (Watcyn Wesley Williams) mewn cwch tua'r lan. Mae yn brynhawn - gwaith hynod o hyfryd - yr haul yn tywynu yn gynnes o braf - mae yn bur uchel ac ystyried mai canol gaeaf ydyw. Bae braf yn edrych ydyw hwn, mae i'e weld fel cylch mawr oddigerth yr agorfa sydd ohonoo i'r môr. Amgylchynir ef a chreigiau lled isel.
Mae oddeutu 50 milldir o hyd a 30 o led - Rhwng 4 a 5 dychwelodd y cwch yn ôl, ac er syndod a llawenydd pawb yr oedd Mr. Lewis Jones ynddo.
Yn fuan wedyn cawsom dipyn o'i hanes gan Mr L. Jones. Yr oedd ei adroddiad yn bodloni yn gyffredinol a thu hwnt i'w disgwyliadua o lawer.
Dywedai mai trwy rwystrau anghyffredin yr oedd wedi llwyddo. Pan gyrhaeddodd i Buenois Ayres anhawdd iawn oedd cael dim gwrandawiad, oblegid yr oedd rhyfel newydd dorri allan yn Paraguqay; a dywedai: 'Chwi wyddoch pan oedd rhyfel rhwng Lloegr a Rwsia nad oedd dim ond Rwsia i'w gael o hyd ganddi; felly yn union yr oedd hi yn Buenos Ayres.'
Yr oedd ganddo yn New Bay 16 o dai, a Store house braf, 2 Drol, 9 o Geffylau, 3 o Wartheg, 500 o Ddefaid, 3 o ddynion gwynion, 1 o'r Patagoniaid, un dof a dyn du (Indian o Calutta o enedigaeth), 3 neu 4 o Germans (Y rhai ydoedd wedi eu canfod mewn rhyw hen wrecks yn y bae), yr oedd Mr Edwin Roberts ganddo yn gwylio ac yn paratoi, yr oedd ganddo long (y sgwner Juno) yn y bae, gyda pha un yr oedd wedi' d'od a'r defaid oddeutu deuddyd yn ôl ac yr oedd ganddo un aral (helen mary) yn rhywle oddeutu'r lle - y ddwy at ein gwasanaeth, yr oedd yn cludo stores gyda'r hon yr oedd wedi dod a'r defaid, yr oedd ganddo yn yr ystordy (Yr unig adeilad gymharol fawr yn y gwersyll. Dywed Thomas Jones ei fod yn mesur 20 medr wrth 5 medr - Y drafod, 30 Gorff 1926, 300 o sacheidiau o wenith, 3 tunnell o fara (bisgedi sychion), ychydig o haidd a cheirch yr oedd ganddo flawd hefyd a thatws, a llawer iawn o faan nwyddau, megys rice, siwgwr, coffi, pomkins, rhawiau, ceibiau heiarn, yr oedd ganddo 500 o Wartheg a 200 o geffylau yn mynd ar hyd y tri i'r Chupat, ac yr oedd yn disgwyl eu bod wedi cyrhaedd yno bellach (Ni chyrhaeddod yr anifeiliaid hyn na'u tywyswyr ben eu taith. Ymosododd haid o frodorion arnynt. Lladdwyd y gauchos, a dygwyd y gwartheg a'r ceffylau.)
Mae gando 3000 o wartheg i ddyfod ynghyd a haner can mil o ddefaid, mae ganddo eisiau mynd i Del Carmen (Patagones) i orffen cael pethau, megys caws, a defaid heblaw yr haner can mil.