A dyna ni...wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 24 Mehefin 2016
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Yr holl ymateb wedi refferendwm yr Undeb Ewropeaidd
Bydd David Cameron yn ildio'r awenau mewn tri mis
BBC Cymru Fyw
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Mae Americanes a gafodd gryn sylw ar ôl rhoi fideo o'i hun yn siarad Cymraeg ar y we wedi sgrifennu ei blog cyntaf am am y profiad o ddysgu'r iaith.
Mae Geordan Burress , dolen allanolyn egluro pam ei bod wedi dechrau dysgu'r iaith a pham ei bod wedi gafael ynddi.
Fe gafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo hi yn gynharach eleni hefyd.
BBC Sport
Bydd pum seiclwr o Gymru yn nhîm Prydain yn Y Gemau Olympaidd yn Rio ym mis Awst.
Bydd Geraint Thomas yn cystadlu ar y ffordd a bydd Owain Doull, Elinor Barker, Becky James a Ciara Horne ar y trac.
BBC Cymru Fyw
Mae'r Gymraes Catrin Stewart wedi ennill y wobr am y perfformiad gorau yn Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin em ei rhan yn y ffilm Y Llyfrgell.
Mae'r ffilm Gymraeg, sydd wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol, wedi ei seilio ar nofel Fflur Dafydd o’r un enw ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn.
Tywydd, BBC Cymru
"Heno bydd y cawodydd yn clirio'n raddol, gan wneud iddi deimlo'n llai trymaidd," meddai Llyr Griffiths-Davies.
"Dros nos fe fydd hi'n gymylog i'r mwyafrif, gyda'r tymheredd ar ei isaf yn rhyw 12C."
Bydd y sylwebydd a'r cyn bêl-droediwr Malcolm Allen yn ateb cwestiynau yn fyw o Ffrainc ar dudalen Facebook Cymru Fyw , dolen allanolheno am 18:00.
Bydd yn ymuno gyda'n gohebydd Rhodri Tomos o do eu gwesty ym Mharis.
Refferendwm UE
Mae 12 o arweinwyr undebau llafur wedi llofnodi llythyr yn cefnogi'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.
Mae'r rhestr yn cynnwys Len McCluskey, Unite, David Prentis, Unsain a Tim Roache o GMB.
Daw hyn ar ôl i ddau o aelodau seneddol wneud cais i herio Mr Corbyn, gan ei feirniadu o ddiffyg arweinyddiaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm.
BBC Cymru Fyw
Mae bardd y mis Radio Cymru, Hywel Griffiths, wedi ysgrifennu cerdd i Cymru Fyw yn dilyn canlyniad y refferendwm.Cafodd y gyntaf ei chyhoeddi neithiwr wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif ac mae i'w chlywed yma.
Ym Mhontblyddyn a Blaenau,
Penrhiwllan a PhontlliwYng Nghaerdydd a Chaernarfon,Cwm Rheidol a Rhiw
lle mae'n anodd adnabodpwy sy'n elyn, yn ffrind,a chyfandir o wahaniaethrhwng gadael a mynd
daeth y cyfri i ben.Rhaid gadael, mi wn,ac mor oer ydi heulwenY Mehefin hwn.
BBC Cymru Fyw
Mae Aelod Seneddol Llafur Aberafan wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynnig o ddiffyg hyder yn arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn.
Dywedodd Stephen Kinnock bod yr arweinyddiaeth Llafur wedi dangos "ddiffyg brwdfrydedd" yn ymgyrch y refferendwm a'i fod angen cael ei ddal i gyfrif am y canlyniad.
Refferendwm UE
Yn ôl y Guardian fe fydd yr Undeb Ewropeaidd eisiau i Brydain adael yr Undeb mor fuan â phosib. , dolen allanol
Mae Martin Schulz, pennaeth y Senedd Ewropeaidd, wedi dweud wrth gyfreithwyr am gyflymu'r broses.
"Ansicrwydd yw'r peth olaf sydd ei angen," meddai Mr Schulz..
Ers i'r canlyniad gael ei gyhoeddi mae David Cameron a Boris Johnson wedi awgrymu nad oes brys i adael, a byddai'n well i drafodaethau ddechrau ar ôl i'r Ceidwadwyr benodi arweinydd newydd.
Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi cyhoeddi podlediad sy'n trafod pam fod Cymru mor awyddus i adael yr Undeb Ewropeaidd, dolen allanol?
Mae Daran Hill, Owen Hathway ac Andrew RT Davies yn ynuno gyda Jess Blair i drafod y canlyniad a'r goblygiadau.
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog yng Nghasnewydd.
Fe ddigwyddodd y lladrad ar siop fetio Betfred ar Ffordd Caerllion tua 21:20 ar 18 Mehefin.
Maen nhw'n awyddus i holi dyn gwyn rhwng 5' 9" a 5'11" ac o bosib yn ei 40au.
BBC Radio Cymru
Mae gan Radio Cymru grynodeb o ymatebion gwahanol i ganlyniad y refferendwm ar eu gwefan.
Yno mae cyfweliadau gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, Eurfyl ap Gwilym o Blaid Cymru a barn yr ifanc.
BBC Cymru Fyw
Mae streic staff Amgueddfa Cymru ynglŷn ag amodau gwaith ar ben, wedi i'r gweithwyr bleidleisio o blaid cynnig newydd.
Ers 28 Ebrill mae'r gweithwyr wedi cynnal cyfres o streiciau mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid y taliadau ar gyfer gweithio penwythnosau.
Fe wnaeth 78% bleidleisio o blaid cynnig newydd gan Amgueddfa Cymru, oedd yn cynnwys iawndal gwerth 5 mlynedd o lwfans, er mwyn dod â'r taliadau premiwm i ben.
Euro 2016
Mae Chris Coleman ac Ashley Williams yn siarad gyda'r wasg am her gêm Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddion ym mhencampwriaeth Euro 2016 fory.
Dywedodd Coleman fod rhaid iddyn nhw "roi popeth" er mwyn ennill y gêm.
Mae banc Morgan Stanley wedi gwadu dechrau'r broses o symud 2,000 o swyddi o Lundain, dolen allanol i Ddulyn a Frankfurt yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai'r Independent.
Yn ôl ffynonellau'r BBC, mae'r broses eisoes wedi dechrau.
Mae BBC Wales Sport yn dweud bod Lerpwl wedi gwrthod cynnig o £8m gan Abertawe am eu chwaraewr ganol cae, y Cymro, Joe Allen.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ymysg cynnwrf gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hawdd anghofio bod Cymru'n chwarae yn rownd yr 16 olaf yn erbyn Gogledd Iwerddon yfory.
Ond mae Gohebydd Cymru Fyw, Rhodri Tomos, wedi cyrraedd y Parc des Princes ym Mharis yn barod!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sarah Dickins
Gohebydd BBC Cymru
Mae Gohebydd Economeg BBC Cymru, Sarah Dickins, wedi ysgrifennu darn ar oblygiadau'r penderfyniad i adael ar economi Cymru.
Mae hi'n ystyried y posibiliadau ynghylch yr arian mae Cymru'n dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.
Taro'r Post
BBC Radio Cymru
Ar raglen Taro'r Post mae Alun Thomas wedi bod yn rhoi'r ods betio diweddara i Garry Owen ynglŷn a phwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr a'r Prif Weinidog nesa.
Boris Johnson yw'r ffefryn ar 4-5, mae Theresa May yn 3-1 a Michael Gove yn 5-1.