Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 16:29 GMT+1 1 Mehefin 2018
Eisteddfod yr Urdd
Dyna'r cyfan gan Lif Byw'r Steddfod ar ddydd Gwener.
Llongyfarchiadau mawr i Erin Hughes o Ben Llyn a'r holl gystadleuwyr yn ystod y dydd.
Hwyl fawr am y tro.
Pumed diwrnod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018
Mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd
Enillydd y Goron yw Erin Hughes oedd ddim yn bresennol o achos salwch
Yr Urdd yn gosod nod i greu 100 prentisiaeth erbyn 2022
Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru
Eisteddfod yr Urdd
Dyna'r cyfan gan Lif Byw'r Steddfod ar ddydd Gwener.
Llongyfarchiadau mawr i Erin Hughes o Ben Llyn a'r holl gystadleuwyr yn ystod y dydd.
Hwyl fawr am y tro.
Eisteddfod yr Urdd
Yr Urdd yn mynd i drefnu seremoni i anrhydeddu Erin Hughes pan fydd hi wedi gwella.
Eisteddfod yr Urdd
Aled Jones Williams, Sonia Edwards a Lleucu Roberts yw rhai o’i dylanwadau mwyaf.
Mae Erin yn dweud bod ei dyled yn enfawr i’w hathrawon a’i darlithwyr Cymraeg am eu hanogaeth ddiflino ar hyd y blynyddoedd.
Mae hefyd yn dweud ei fod yn ddiolchgar i'w theulu ac i Steffan ei phartner a’i deulu, oedd yn bresennol yn y seremoni.
Yr Athro Gerwyn Williams sydd yn derbyn y goron ar ei rhan.
Eisteddfod yr Urdd
Mae Erin, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.
Cafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Pont-y-Gôf, ac yna addysg uwchradd yn Ysgol Botwnnog a Choleg Merion Dwyfor.
Mae bellach newydd orffen ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n astudio’r Gymraeg a Chymdeithaseg.
Eisteddfod yr Urdd
Yn anffodus, dyw Erin ddim yn bresennol i dderbyn ei choron yn y seremoni heddiw oherwydd salwch.
Mae Erin yn dioddef o gyflwr sy'n ymyrryd ar y cyswllt rhwng y nerfau a'r cyhyrau; cyflwr a elwir yn Myasthenia Gravis.
Eisteddfod yr Urdd
Sioned Erin Hughes 20 oed o Ben Llyn yw enillydd Cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed.
Eisteddfod yr Urdd
'Melyn' sydd yn mynd â hi.
Yn drydydd roedd Iestyn Tyne, Mared Roberts sydd yn ail.
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r brif seremoni wedi dechrau.
Catrin Beard sy'n traddodi'r feirniadaeth.
Mae'n dweud bod y safon eleni wedi bod yn uchel ac fe fydden nhw wedi bod yn "barod i wobrwyo hyd at saith o'r ymdrechion".
Eisteddfod yr Urdd
I Lara ac Emily o Aberystwyth, mae gweithio ar stondin ar faes yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eu Cymraeg.
Mae'r ddwy, sy'n gweithio yn Siop y Pethe yn y dref, ac yma ar y maes yr wythnos hon, wedi dysgu Cymraeg.
"Dwi'n dysgu ers blwyddyn a hanner," meddai Lara sy'n wraig i Nicky Roberts, un o'r pump sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Caerdydd 2018.
"Symudon ni o Abertawe i Aberystwyth a meddwl rydw i'n Gymraes, ddylwn i fod yn gallu siarad yr iaith."
"Dwi'n dod o gefndir di-Gymraeg," meddai Emily. "Does neb o fy nheulu na ffrindiau yn siarad yr iaith, ond fe wnes i gais i weithio yn y siop, a dwi'n dysgu wrth weithio.
"Mae gweithio yna yn help i ymarfer ac rydyn ni'n dwy yn cynnal Clwb Clonc er mwyn i ddysgwyr eraill ymarfer eu Cymraeg."
Eisteddfod yr Urdd
Os ydych chi awydd teithio o amgylch ardal brydferth yr eisteddfod fe allai llyfryn bach newydd fod o fudd i chi.
Bethan Price o Fenter iaith Brycheiniog a Maesyfed sy’n gyfrifol am Enwau Lleoedd Brycheiniog a Maesyfed.
Mae'n rhoi hanesion diddorol gwahanol drefi a phentrefi.
Dywedodd Bethan: "O ni’n teimlo yn yr ardal hon fod hi mor bwysig fod pobl yn deall yr enwau er mwyn sicrhau eu bod yn eu cadw nhw.
"Os nad ydynt yn deall yr enwau dyn nhw ddim yn teimlo gymaint drostynt."
Eisteddfod yr Urdd
Ymgom Bl. 10 a dan 19 oed
1. Ysgol Gyfun Rhydywaun
2. Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
3. Ysgol Gyfun Garth Olwg
Eisteddfod yr Urdd
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod yr Urdd
Llywydd y dydd, Richard Lynch sydd yn rhannu ei atgof ef.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Fe ddaeth y glaw ben bore ond erbyn hyn mae'r haul yn disgleirio.
Ac mae ffotograffydd Cymru Fyw wedi bod yn crwydro'r maes.
Dyma luniau dydd Gwener.
Efa, Bleddyn ac Esyllt yn mwynhau'r ffair
Eisteddfod yr Urdd
Unawd Bechgyn Bl. 10 a dan 19 oed
1. Cai Fôn Davies Ysgol Uwchradd Tryfan
2. Lewys Meredydd Uwch Adran Cylch Idris
3. Dyfan Parry Jones Aelod Unigol Cylch Bro Ddyfi
Eisteddfod yr Urdd
Mae'r haul yn gwenu ar faes y Steddfod amser cinio, ac mae'r teulu Laing o Fae Colwyn yn mwynhau eu picnic cyn i'r merched gystadlu yng nghystadleuaeth y Côr SATB gyda Ysgol y Creuddyn, yn hwyrach yn y prynhawn.
Eisteddfod yr Urdd
Deuawd Cerdd Dant Bl. 10 a dan 19 oed
1. Beca ac Elan Aelwyd Llanbedr Pont Steffan
2. Elenid a Modlen Adran Ysbyty Ifan
3. Celyn a Hanna Ysgol Bro Myrddin
Prifysgol Abertawe
Cafodd cystadleuaeth siarad gyhoeddus ei gynnal heddiw yn y GwyddonLe.
Y testun oedd 'Mae ynni niwclear yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad ynni cynaliadwy i Gymru'.
Enillydd y gystadleuaeth oedd Ellen Jones, disgybl blwyddyn 11 o Ysgol y Creuddyn.
Dywedodd un o'r beirniaid, Helen Mary Jones, dirprwy gyfarwyddwr Academi Morgan Prifysgol Abertawe bod y "safon yn aruthrol".
Eisteddfod yr Urdd
Deuawd Offerynnol Bl. 13 ac iau
1. Rachel a Huw Ysgol Uwchradd Brynrefail
2.Elin ac Amy Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt
3. Annest Mair ac Awen Esyllt Ysgol Gyfun Y Preseli