Crynodeb

  • Cafodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ei sefydlu ar 5 Gorffennaf 1948

  • Dyma gyflogwr mwyaf Cymru, gyda dros 70,000 yn gweithio iddo

  • Mae dros filiwn o gleifion yn ymweld ag adrannau brys pob blwyddyn

  1. Pen-blwydd hapus a hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Dyna’r cyfan o’r llif byw arbennig yma ar ddiwrnod pen-blwydd y GIG yn 70.

    Diwrnod wrth i’r staff, cleifion ac eraill nodi, dathlu a gwerthfawrogi 70 mlynedd o ofal a thriniaeth am ddim gan y gwasanaeth iechyd ers ei sefydlu ar 5 Gorffennaf, 1948.

    Ysbyty Gwynedd, Bangor
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysbyty Gwynedd, Bangor

  2. Barn babi cyntaf y GIG, Aneira Thomaswedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Cafodd Aneira Thomas ei geni yng Nglanaman toc wedi hanner nos ar 5 Gorffennaf 1948, sy'n golygu mai hi oedd y babi cyntaf i gael ei geni dan drefn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

    Yn wir, fe chafodd ei henwi ar ôl sefydlydd y GIG, Aneurin Bevan.

    Ar ei phen-blwydd hithau yn 70 bu'n siarad â BBC Cymru, gan ddweud fod y Gwasanaeth Iechyd yn bwysicach heddiw nac erioed.

    Disgrifiad,

    Babi cyntaf y GIG, Aneira Thomas

  3. Pamffled o 1948 i egluro beth oedd bethwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae pamffled a oedd yn helpu trigolion Sir Y Fflint i ddeall yn union beth oedd y 'gwasanaeth iechyd newydd' wedi cael ei uwchlwytho i Facebook gan Archifdy Sir y Fflint, dolen allanol.

    Cafodd y daflen ei dosbarthu i bob cartref yn nhref Prestatyn, ac roedd yn nodi fod y gwasanaeth newydd at ddefnydd pawb - 'cyfoethog a thlawd, yn ddyn, merch neu blentyn'.

    Sir y FflintFfynhonnell y llun, Archifdy Sir y Fflint
    Disgrifiad o’r llun,

    Beth yw'r Gwasanaeth Iechyd newydd?

  4. Wrth ei bodd yn ward y plantwedi ei gyhoeddi 14:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Un arall sydd wedi bod yn dathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd, yw Anna Elias sy'n gynorthwy-ydd chwarae ar ward y plant, Ward Cilgerran yn Ysbyty Glangwili.

    Mae hi'n un o dîm sy'n cynnig cefnogaeth i staff meddygol wrth ymdrin â phlant.

    Mae'r tîm yn helpu paratoi plant ar gyfer y theatr a thriniaethau eraill drwy amlinelli'n union beth fydd yn digwydd drwy ddefnydd lluniau.

    Flwyddyn yn ôl cafodd lle chwarae penodol ei agor, yn llawn rhoddion gan rieni diolchgar.

    Anna ar fin dechrau chwarae
    Disgrifiad o’r llun,

    Anna ar fin dechrau chwarae

    Y ffeil sy'n cael ei ddefnyddio gan y tîm chwarae i esbonio i blant beth fydd yn digwydd cyn eu llawdriniaeth
    Disgrifiad o’r llun,

    Y ffeil lluniau sy'n cael ei ddefnyddio i esbonio i blant beth fydd yn digwydd cyn eu llawdriniaeth

  5. Seibiant am y tro.....wedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Gydag amser cinio drosodd, mae'r trolis bwyd yn dychwelyd o'r wardiau ac yn cael eu glanhau, ynghyd â'r gegin ...ac yn barod am amser swper!

    trolis
    cegin
  6. Phil Harries - Beiciau Gwaed Cymruwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Eich straeon chi am y Gwasanaeth Iechyd

    Geraint Lloyd
    BBC Radio Cymru

    Yr wythnos hon mae Radio Cymru wedi bod yn rhannu eich straeon chi am y GIG. Dyma Phil, wnaeth benderfynu gwirfoddoli gyda Beiciau Gwaed Cymru ar ôl i'w ŵyr orfod cael llawdriniaeth frys.

    Phil Harries - Beiciau Gwaed Cymru

  7. Cysylltiad cyson gyda chleifionwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru daw cleifion yma i gysylltiad â'r GIG tua 20 miliwn o weithiau bob blwyddyn, ac mae 80% o'r cysylltiadau hynny'n digwydd mewn man heblaw ysbyty.

    O ran yr ysbytai mae mwy na miliwn o bobl yn ymweld ag adrannau brys bob blwyddyn.

    ambiwlans
  8. Nyrs oedd yna ar y diwrnod cyntafwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Ar y 5ed o Orffennaf 1948, diwrnod cyntad y GIG, roedd Megan Williams o Aberaeron yn nyrs ifanc yn Ysbyty Guys yn Llundain.

    Cafodd gyfle i weld camau ansefydlog cyntaf baban newydd Aneurin Bevan, a mae'n dweud ei hanes ar Cymru Fyw.

    megan Williams
  9. Esyllt Sears yn hel atgofionwedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae'r gomedïwraig, Esyllt Sears, wedi bod yn datgan ei diolch i'r GIG mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, dolen allanol am yr holl ofal mae hi a'i theulu wedi ei dderbyn dros y blynyddoedd.

    O adael iddi gysgu ar waelod gwely ei modryb oedd ar farw, gofalu amdani ar ôl iddi gael gwybod ei bod wedi colli ei babi, i bwytho ei chlust yn ôl wedi iddi ei rwygo wrth geisio dwyn siocled ei chwaer!

    Esyllt Sears
    Disgrifiad o’r llun,

    Esyllt Sears

  10. Llun arbennig gan Bagsy!wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Twitter

    Mae Bagsy, yr artist o'r Rhondda sy'n creu campweithiau drwy dynnu lluniau ar fagiau plastig, wedi trydar ei deyrnged arbennig ei hun i'r GIG.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 39 mlynedd yn ddiweddarach...wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Barbara Williams o Frynsiencyn yn hel atgofion am ei dyddiau cynnar yn nyrsio gyda llun o'i hun yn 1979 yn hen ysbyty C&A Bangor.

    "Mae'r iwnifforms a'r ffordd rydyn ni'n gwneud gwlâu wedi newid lot, a'r elfen iechyd a diogelwch hefyd," meddai.

    "Rydyn ni'n dal i ofalu yn yr un ffordd ond mae 'na lai o barch a mwy o reolwyr rŵan."

    Barbara Williams
  12. 'Hebddyn nhw fydde ni ddim yn fyw'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Nyrs y shifft noswedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    Geraint Lloyd
    BBC Radio Cymru

    Mae Janet Roberts yn un o'r nyrsys sy'n gwneud shifftiau 12 awr dros nos yn Ysbyty Gwynedd a hynny ar Ward Conwy, sy'n derbyn cleifion o'r uned ddamweiniau brys.

    Mae hi'n gweld y llon a'r lleddf yn ei gwaith ond wrth ei bod yn y swydd: "Dwi'n licio gofalu am bobl a gwneud yn siŵr bod pawb yn iawn – dyna fy natur i, a dwi wedi fy nwyn i fyny i fod felly," meddai.

    Mae hi'n sgwrsio gyda Nia Lloyd Jones ar raglen Geraint Lloyd ar Radio Cymru heno.

    Janet Roberts gyda Nia Lloyd Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Roberts gyda Nia Lloyd Jones

  14. Cyfle am seibiantwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Claire Lisk a Karen Millen, dwy ddirprwy reolwr ward, yn cymryd hoe i ddathlu yn nhe parti 70 y GIG yn Ysbyty Gwynedd

    nyrsys
  15. Rhoi clod i radio ysbytywedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r darlledwr adnabyddus Sulwyn Thomas yn dweud fod gan radio ysbyty ran bwysig i chwarae wrth ddatblygu talent newydd yn y maes darlledu.

    Gan ddiolch am gyfraniad radio ysbyty wrth ddiddanu cleifion dywedodd Mr Thomas, Llywydd Oes Radio Glangwili, fod y cyfrwng hefyd wedi lansio sawl gyrfa darlledu lwyddiannus.

    Dywedodd Ian Williams, trysorydd yr orsaf, fod Radio Glangwili yn rhoi cyfleoedd gwaith i ddegau bob blwyddyn.

    Disgrifiad,

    Cyfle i'r ifanc

  16. Nic dal yn Ffit!wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Bydd wyneb Nic Davies sydd yn nyrs yn Ward Cilgerran, sef ward y plant yn Glangwili, yn gyfarwydd i nifer.

    Roedd Nic yn un o gystadleuwyr y gyfres Ffit Cymru ar S4C a fyddwch chi'n falch o wybod fod e'n parhau i edrych ar ôl ei hun er bod y gyfres wedi dod i ben.

    Mae Nic newydd orffen shifft nos, ac felly beth gwell i wneud na mynd mas i redeg? Parch!

    Nic Davies
  17. Hoe fach cyn y ffairwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae Ysbyty Glangwili, fel llawer i ysbyty arall, yn dioddef o broblemau parcio, gyda phrinder llefydd yn ddraenen gyson.

    Dyma'r ddau sydd yn gyfrifol am sicrhau fod pawb yn parcio lle maen nhw fod parcio ...ond am y tro, mae'n dawel, felly mae Phil a Carol yn cael hoe fach yn yr haul.

    Phil a Carol
  18. Max y ci yn heplu Jamiewedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae gan Jamie o Ynys Môn awtistiaeth ac mae wrth ei fodd efo cŵn felly mae cŵn fel y ci therapi yma, Max, yn ei helpu - mae'n ei helpu i dawelu meddai.

    Max a Jamie
  19. Cyfle i glywed y gerdd 'Ti'wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 70 oed mae cerdd arbennig wedi ei chreu gan Casia William, Bardd Plant Cymru, i staff wardiau plant yr ysbytai.

    Bydd y gerdd o dan y teitl 'Ti' yn cael ei harddangos ar wardiau plant ysbytai led led Cymru.

    Disgrifiad,

    Cerdd wych gan Casia William, Bardd Plant Cymru yn arbennig i staff wardiau plant.

  20. Dwy o hoelion wyth y GIGwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2018

    GIG 70

    Mae nifer o wardiau o amgylch ysbyty Glangwili wedi bod yn brysur yn trefnu arddangosfeydd i ddathlu'r pen-blwydd.

    Ar Ward Padarn, mae Shan Moses a Delyth John yn fwy na pharod i ddangos y casgliad o hen luniau a gwisgoedd nyrs sydd ar ddangos yng nghoridorau a stafell dydd y ward.

    Rhwng y ddwy mae yna 56 mlynedd o brofiad o weithio yn yr ysbyty.

    Shan Moses sydd wedi gweithio yn yr ysbyty ers 33 mlynnedd a Delyth John sydd wedi gweithio yma ers 23 mlynedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Shan Moses sydd wedi gweithio yn yr ysbyty ers 33 mlynnedd a Delyth John sydd wedi bod yma ers 23 mlynedd

    arddangosfa